Mae Gwobrau Twristiaeth Canolbarth Cymru yn ôl! Ar ôl heriau COVID-19, rydym ni wrth ein bodd yn cyhoeddi bod ein gwobrau rhanbarthol yn dychwelyd, gyda’r enillwyr yn cael cyfle i symud ymlaen i’r gwobrau cenedlaethol ym mis Mawrth 2025
Mae’r gwobrau hyn yn dathlu diwydiant twristiaeth eithriadol y rhanbarth a’r busnesau a’r unigolion dawnus sy’n ysgogi’r economi ymwelwyr. Mae'n bosibl y bydd enillwyr a'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu dewis i gynrychioli Canolbarth Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru, gan ennill hyrwyddiad gwych yn y cyfryngau. Rydym ni’n croesawu ceisiadau o Bowys, Bannau Brycheiniog, Ceredigion, a Meirionnydd. Darllenwch fwy am ein dull gweithredu rhanbarthol. Bydd y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu dathlu yn y Seremoni Wobrwyo sy’n ddigwyddiad tei du. Mae enwebiadau ar agor i'r cyhoedd ar gyfer y Wobr Seren Newydd, tra bod yn rhaid i bob categori arall gael ei gyflwyno'n uniongyrchol gan y busnes neu'r sefydliad. Y dyddiad cau wedi'i ymestyn tan hanner nos, dydd Gwener 6ed Medi. |
Key Dates Closing Date: Midnight 6th Sept 2024 Finalists Announced: Oct Date TBC Awards Ceremony Nov Date TBC |